Mae mwy na £2bn wedi cael ei roi o’r neilltu i’w wario ar Brexit heb fargen wrth i brif weinidog Prydain, Boris Johnson, baratoi ar gyfer cyfarfod strategaeth ar adael yr Undeb Ewropeaidd heddiw (dydd Iau, Awst 1).

Fe gyhoeddodd y Canghellor Sajid Javid fod y cyllid yn cynnwys £1.1bn i adrannau a’r awdurdodau datganoledig i’w wario yn syth, gyda £1bn arall wrth gefn.

Mae Boris Johnson yn cynnal y cyfarfod XS – ‘strategaeth ymadawiad’, ar ôl i Ganghellor Canghellor Dugiaeth Lancaster, Michael Gove, gadeirio’r  cyfarfod cyntaf ddydd Llun (Gorffennaf 29).

Yn ôl Sajid Javid fe fydd yr arian yn sicrhau bod gwledydd Prydain yn barod i adael yr Undeb Ewropeaidd gyda neu heb gytundeb. 

Er, mae is-ganghellor Llafur, John McDonnell, yn dweud fod yr arian yn “wastraff gwarthus o arian y trethdalwr.”

Mae’r arian yn cael ei rannu fel hyn:

– £ 344m ar gyfer gweithrediadau ffiniau a thollau

– £ 434m i sicrhau bod meddyginiaethau hanfodol ar gael

– £ 108m i gefnogi busnesau

– £ 138m ar gyfer ymgyrch wybodaeth gyhoeddus, gwybodaeth i bobol gwledydd Prydain sy’n byw dramor a chefnogaeth i ardaloedd gan gynnwys Gogledd Iwerddon

Mae rhai o’r mesurau yn cynnwys cyflogi.500 o swyddogion newydd ar y ffiniau, cefnogaeth ar gyfer prosesu pasbort, gwell seilwaith mewn porthladdoedd ac arian parod ychwanegol ar gyfer Operation Brock – y cynllun i ymdopi ag anhrefn traffig yn Kent.

Ar y cyfan, mae’r Trysorlys wedi sicrhau bod £6.3bn ar gael i baratoi ar gyfer Brexit, gan gynnwys £4.2bn y flwyddyn ariannol hon yn unig.