Mae’n bosib iawn y bydd corff y gangster o’r 1930au, John Dillinger, yn cael ei godi o’i fedd mewn mynwent yn Indianapolis, 85 mlynedd ers iddo gael ei ladd gan yr FBI.
Mae warant wedi’i chyhoeddi ers Gorffennaf 3 ar gais nai John Dillinger, Michael C Thompson. Mae am godi’r corff er mwyn ei gladdu drachefn mewn bedd arall yn Crown Hill.
Dyw’r warant ddim yn nodi’r rheswm y tu ól i’r cais.