Mae gan aelodau o’r cyhoedd yr hawl i gynnig enwau ar gyfer stormydd y tymor nesaf.
Mae’r Swyddfa Dywydd, ynghyd â Met Eireann yn Iwerddon wedi bod yn rhoi enwau ar stormydd ers 2015, mewn ymgais i geisio tynnu sylw at dywydd difrifol – ac maen nhw wedi derbyn 10,000 o awgrymiadau dros y cyfnod hwnnw
Ond mae’r sefydliadau wedi galw eto am syniadau am enwau gan bobol gwledydd Prydain ac Iwerddon.
Y bwriad yw cyhoeddi enwau stormydd 2019/20 yn gynnar ym mis Medi.
Fe fydd enwau’r stormydd y gaeaf nesaf yn dilyn trefn yr wyddor, gan hepgor Q, U, X, Y a Z er mwyn cydymffurfio â’r confensiwn rhyngwladol o enwi stormydd.