Mae’r heddlu wedi bod yn chwilio saith eiddo yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Chaint yn dilyn cwyn gan Brifysgol Abertawe.
Cafodd yr heddlu warantau fel rhan o ymchwiliad ar y cyd i lwgrwobrwyo honedig.
Mae Heddlu’r De, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Caint yn cydweithio ar yr ymchwiliad.
Fe ddaw yn dilyn cwyn i’r Swyddfa Twyll Difrifol yn 2018, a gafodd ei drosgwlyddo i’r heddlu’n ddiweddarach.
Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn, ond mae sawl dogfen ac offer electronig bellach yng ngofal yr heddlu.
Daw’r ymchwiliad ar ôl i’r Athro Richard B Davies, is-ganghellor Prifysgol Abertawe, a’r Athro Marc Clement, Deon y Brifysgol, gael eu diswyddo’r wythnos ddiwethaf.