Mae’r dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio 51 o bobol mewn dau fosg yn Christchurch yn Seland Newydd wedi pledio’n ddieuog i’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Fe ymddangosodd Brenton Tarrant, 28 oed, drwy gyswllt fideo yn yr Uchel Lys yn Christchurch gan wenu wrth i’w gyfreithiwr gyflwyno ei ble.

Mae’n cael ei gadw mewn carchar yn Auckland.

Yn y llys roedd 80 aelod o deuluoedd y rhai gafodd eu lladd neu oroeswyr yr ymosodiad, a 60 arall mewn ystafell ar wahân yn gwylio’r gwrandawiad drwy gyswllt fideo.

Mae Brenton Tarrant wedi’i gyhuddo o 51 achos o lofruddiaeth, 40 achos o geisio llofruddio ac un cyhuddiad yn ymwneud â brawychiaeth.

Yn yr ymosodiadau ar Fawrth 15 cafodd 42 o addolwyr eu lladd ym mosg Al Noor a saith eu lladd ym mosg Linwood. Bu farw dau berson arall yn Ysbyty Christchurch yn ddiweddarach.

Mae disgwyl i’r achos yn ei erbyn ddechrau ar Fai 4 2020.