Mae Boris Johnson dan bwysau i gymryd rhan mewn dadl deledu yn y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr.
Cynyddu mae’r feirniadaeth ohono am wrthod cymryd rhan mewn trafodaethau cyhoeddus.
Boris Johnson yw’r ceffyl blaen yn y ras am arweinyddiaeth y blaid ond hyd yn hyn mae wedi ateb chwe chwestiwn yn unig gan newyddiadurwyr yn ystod ei ymgyrch ac wedi bod yn gwrthod ceisiadau am gyfweliadau gan y cyfryngau.
Mae ei wrthwynebwyr wedi cytuno i gymryd rhan mewn dadl deledu ddydd Sul a dydd Mawrth ac mae Channel 4 wedi dweud y bydd yn cael ei gynrychioli gan gadair wag os ydy’n gwrthod cymryd rhan.
Mae un o’i wrthwynebwyr wedi gofyn “beth sydd gen ti i guddio?”
Dywedodd llefarydd ar ran Boris Johnson ei fod “mewn trafodaethau” gyda darlledwyr.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Jeremy Hunt, Michael Gove, Dominic Raab, Sajid Javid, Matt Hancock a Rory Stewart bod y gystadleuaeth am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn “adeg dyngedfennol” i wledydd Prydain a’r Blaid Geidwadol.