Mae llywodraeth yr Aifft yn ceisio atal arwerthiant o gerflun carreg 3,000 o flynyddoedd oed o’r brenin Tutankhamun yn Christie’s, Llundain.
Mae gweinyddiaeth dramor y wlad yn dweud ei bod wedi mynnu cael gweld dogfennau gan yr arwerthwyr yn profi perchnogaeth y crair.
Mae disgwyl i’r cerflun o’r pen mewn cwarts brown fynd dan y morthwyl ym mis Gorffennaf, ac mae disgwyl iddo fynd am gymaint â £4m.
Roedd Tutankhamun yn frenin ar yr Aifft rhwng 1332 a 1323 CC. Fe ddaeth Howard Carter o hyd i’w feddrod ger Luxor yn 1922.
Mae’r Aifft yn gwneud ei gorau ar hyn o bryd i ddychwelyd creiriau sydd wedi’u cymryd o’r wlad ar gam.