Mae crwner wedi diystyrru’r posibilrwydd fod cyd-gynllwynio wedi bod yn dilyn saethu gweithiwr warws o Belffast yn ystod y Trafferthion yng Ngogledd Iwerddon.
Cynhaliwyd ymchwiliad “diffygiol ac annigonol” i lofruddiaeth Daniel Carson yn ardal Shankill Road ym mis Tachwedd 1973, meddai’r Ynad Adrian Colton, wedi i gydweithiwr iddo fynd at yr heddlu ei fod yn addnabod y saethwr.
Yn ddiweddarach, newidiodd y tyst ei stori, gan ofni am ei ddiogelwch ei hun, ac ni chafodd y sawl oedd yn cael ei amau o’r llofruddiaeth, ei gyhuddo.
“Nid oes unrhyw dystiolaeth o unrhyw ymwneud gan y wladwriaeth yn lofruddiaeth Daniel Carson, na thystiolaeth o unrhyw gyd-gynllwynio rhwng asiantau gwladol a’r llofrudd cyn nac ar ôl marwolaeth Mr Carson.
“Roedd yr ymchwiliad i farwolaeth Daniel Carson yn ddiffygiol ac yn annigonol,” meddai.
Mae Heddlu Gwirfoddol Ulster wedi cael eu beio am ladd y dyn 29 o Dunmurry yn 1973.
Beirniadodd y crwner weithredoedd y fyddin a Heddlu Brenhinol Ulster (RUC) yn ystod yr ymchwiliad i farwolaeth Daniel Carson.