Mae gwylwyr y glannau yn Libya wedi achub bron i gant o ffoaduriaid oedd ar y ffordd i Ewrop.

Mae llefarydd ar ran y gwasanaeth yn dweud i gwch rwber yn cario ffoaduriaid o Affrica, gan fwyaf, gael ei rwystro oddi ar arfordir y wlad ger tref Khoms.

Mae’r 96 o bobol ar y cwch wedi cael eu bwydo ac wedi cael eu harchwilio yn feddygol, cyn cael eu hebrwng i wersyll ffoaduriaid ar gyrion y dref.

Mae wedi dod yn beth cymharol gyffredin i weld cychod yn croesi’r Môr Canoldir, wrth geisio dod i’r cyfandir.