Mae pedwerydd dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â honiadau o wrth-semitiaeth ymhlith aelodau’r Blaid Lafur.

Cafodd y dyn, 44, ei arestio yn Newham heddiw (dydd Mercher, Mai 1) ac mae bellach yn y ddalfa.

Mae’r ymchwiliad ar y gweill ers mis Tachwedd y llynedd ar ôl i ddogfen yn llawn tystiolaeth honedig ddod i law Comisiynydd Heddlu’r Met, Cressida Dick.

Mae’r dyn wedi cael ei arestio o dan Adran 19 Deddf Gorchymyn Gyhoeddus 1986 – ble mae rhannu neu greu deunydd sydd yn annog casineb hiliol yn anghyfreithlon.

Arestiwyd tri arall o dan yr un ddeddf ym mis Mawrth eleni.