Mae hanesydd ac arbenigwr ar Gymru’r Oesoedd Canol, yr Athro Antony D Carr, wedi marw yn 81 oed.
Roedd wedi teithio’r byd yn ystod ei oes – o’i ddyddiau cynnar yn y Malfinas a Mauritius cyn i’r teulu symud i Gymru – ond fe dreuliodd ei yrfa gyfan, bron, yn ddarlithydd yn Adran Hanes, Prifysgol Cymru Bangor, lle’r oedd wedi bod yn fyfyriwr.
Roedd wedi treulio bron i 40 mlynedd yn y Coleg ar y Bryn pan ymddeolodd yn 2002.
Fe gafodd ei fagu yn nhref Porthaethwy, Ynys Môn, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Biwmares.
Yn ddim ond 18 oed, fe wnaeth enw iddo’i hun trwy gipio teitl ‘Brain of Britain’ ar y cwis teledu o’r un enw yn 1956; ac fe aeth un cam yn well yn 1962 trwy ddod i’r brig yn yr ornest rhwng cyn-enillwyr y gyfres, mewn rhaglen arbennig, Top Brain of Britain.
Yn ei ffordd wylaidd ei hun, dywedodd ar y pryd mai “mater o lwc” oedd ei lwyddiant. Er hynny, does neb wedi llwyddo i wella ar ei gamp o fod yr enillydd ieuengaf i gael ei goroni’n ‘Brain of Britain’.
Dros gyfnod o 30 mlynedd, fe fu Antony Carr yn cyhoeddi llyfrau yn Gymraeg ac yn Saesneg am hanes Cymru – ei gyfrol olaf oedd The Gentry of North Wales in the Later Middle Ages i Wasg Prifysgol Cymru yn 2017.