Mae ymwelydd arall ym Mharc Cenedlaethol y Grand Canyon wedi marw ar ôl disgyn oddi ar glogwyn 200 troedfedd.
Fe syrthiodd y wraig 70 oed oddi ar y South Rim – a hi yw’r ail i farw yn y parc y mis hwn.
Roedd hi wedi bod yn cerdded ar uchder o dros 200 troedfedd ar y llwybr, tua milltir i’r dwyrain o Mather Point.
Mae tair marwolaeth arall wedi bod yn y parc ers Mawrth 26, gyda dwy yn dal i gael eu hymchwilio.
Mae Grand Canyon West, yng ngwarchodfa Hualapai, yn croesawu tua miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.