Mae disgwyl i aelodau’r blaid Geidwadol gynnal mwy o drafodaethau heddiw, gan ystyried y syniad o newid y rheolau o ran herio’r arweinydd, Theresa May.

Fe gynhaliwyd cyfarfod o swyddogion Pwyllgor 1922 y Torïaid yn Westminster ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 23). Does dim datganiad swyddogol wedi dod ar ôl hwnnw.

Cyn y cyfarfod ddoe, fe fu cyfarfod rhwng cadeirydd y pwyllgor, Syr Graham Brady, a Theresa May, a’r gred ydi iddo ofyn iddi yn blwmp ac yn blaen pryd y mae hi’n bwriadu gadael ei swydd.

O dan reolau presennol y Blaid Geidwadol, ni all Aelodau Seneddol gyflwyno her i’r arweinyddiaeth am flwyddyn gyfan ar ôl yr her a fethodd â chael gwared â Theresa May ym mis Rhagfyr y llynedd.

Er hynny, mae’r oedi gyda Brexit yn creu rhwystredigaeth ymysg y Torïaid, ac mae llawer yn galw ar newid y rheolau i ganiatáu her i Theresa May ym mis Mehefin.