Mae gŵr busnes amlwg o dras Serbaidd wedi cael ei saethu’n farw yn Bosnia, mewn digwyddiad sy’n cael ei ddisgrifio fel un yn steil y maffia.
Fe gafodd Slavisa Krunic ei saethu yn ei gerbyd yn hwyr nos Lun (Ebrill 22) wrth iddo ddychwelyd adref y tu allan i ddinas Bania Luka.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau i’r gŵr 48 oed, a oedd yn dad i bedwar o blant, gael ei gludo i’r ysbyty, cyn marw yno.
Fe gafodd ei yrrwr hefyd ei saethu yn ystod yr ymosodiad, ac mae wedi’i anafu’n ddifrifol.
Roedd Slavisa Krunic yn feirniadol iawn yn gyhoeddus o blaid genedlaetholgar Serbiaid Bosnia, ac o’i harweinydd, Milorad Dodik.
Roedd wedi cyhuddo Milorad Dodik o brocio tensiynau rhwng gwahanol grwpiau ethnig, mewn ymgais i dynnu sylw oddi ar ei ddulliau “llwgwr”.