Mae’r nifer sydd wedi marw yn ymosodiadau Sri Lanca wedi codi i 359 ac mae mwy yn cael eu harestio yn dilyn y bomio, meddai heddlu dinas Colombo.
ISIS sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiadau ac maen nhw wedi rhyddhau lluniau sydd yn dangos y saith hunan-fomiwr wnaeth achosi ffrwydron mewn tair eglwys a tri gwesty ar ddydd Sul (Ebrill 20).
Dyma yw’r trais gwaethaf mae’r ynys yn Ne Asia wedi gweld ers diwedd y rhyfel cartref ddegawd yn ôl.
Dywed Llywodraeth Sri Lanca fod yr ymosodiadau wedi eu gwneud gan eithafwyr Islamaidd mewn ymateb i’r erchyllterau yn Christchurch, Seland Newydd, y mis diwethaf – ond mai o Sri Lanca oedd yr ymosodwyr yn dod.
Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, mae 18 wedi cael eu harestio, sy’n golygu bod 58 o bobol yn y ddalfa.