Mae wyth o arweinwyr protestiadau tros ddemocratiaeth yn Tsieina wedi cael carchar o hyd at 16 mis yr un.

Nhw oedd yn gyfrifol am arwain y protestiadau enfawr yn ninas Hong King yn 2014 ac fe’u cyhuddwyd y mis diwethaf o achosi niwsans cyhoeddus.

Mae’r dedfrydau yn cael eu gweld fel ymdrech gan lywodraeth Tsieina i ddangos na fydd hi’n caniatau unrhyw brotest o’r fath eto.

Mae’r drosedd yn cario dedfrydau posib o hyd at saith mlynedd.