Mae un o awyrennau llu awyr Japan wedi plymio i’r Môr Tawel yn ystod ymarferion.

Fe ddiflannodd yr F-35A oddi ar y map wrth iddi hedfan oddi ar arfordir deheuol Aomori, ac mae darnau ohoni wedi’u canfod neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 9).

Dord dim golwg o’r peilot, sydd yn ei 40au, hyd yn hyn, a dyw hi ddim yn glir ar hyn o bryd beth achosodd y ddamwain. 

Aeth yr awyren ar goll tua hanner awr ar ôl iddi adael Misawa gyda thair awyren F-35A arall.

Fe ddechreuodd Japan ddefnyddio’r awyrennau drud hyn o’r Unol Daleithiau’r llynedd fel rhan o’i chynllun i gryfhau gwariant ar amddiffyn i wrthsefyll bygythiadau posibl o Ogledd Corea a Tsieina.