Mae arweinwyr Ewrop yn barod i roi estyniad hirach i Brexit nag y mae Prif Weinidog Prydsin, Theresa May, yn ei ddymuno.
Fe fyddan nhw’n cyfarfod yn ninas Brwsel heddiw (dydd Mercher, Ebrill 10).
Y disgwyl yw i Theresa May ail-adrodd ei galwad i ohirio Brexit tan Fehefin 30, gyda’r posibilrwydd o ymadawiad cynt os yw’r cytundeb ymaadael yn cael ei gadarnhau.
Ond mae Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Donald Tusk, yn awgrymu bod arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn rhoi estyniad o hyd at flwyddyn i wledydd Prydain.
Mewn llythyr at benaethiaid y 27 gwlad arall yn yr Undeb, dywed Donald Tusk “nad oes fawr o le i gredu” y gallai cytundeb Theresa May gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin.
Mae’n galw ar y Cyngor Ewropeaidd i drafod estyniad arall, hirach, fel “estyniad hyblyg” parhaol “cyhyd ag y bo angen a dim hwy na blwyddyn”.
Mae angen cytundeb unfrydol pob un o’r 27 o wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd sy’n weddill er mwyn osgoi Brexit heb gytundeb ddydd Gwener, Ebrill 12.