Mae prif weinidog Israel, Benjamin Netanyahu yn agos at gael ei ail ethol heddiw (dydd Mercher, Ebrill 10) wrth i ganlyniadau answyddogol etholiad gael eu rhyddhau.

Byddai Benjamin Netanyahu yn creu hanes trwy ennill pumed tymor, a’r pedwerydd yn olynol – fyddai’n ei wneud y prif weinidog sydf wedi arwain Israel am y cyfnod hiraf.

Wrth iddo wynebu llu o gyhuddiadau o lygredd yn ei erbyn, mae cael ei ail ethol yn bwysig iawn iddo.

Mae canlyniad yr etholiad yn cadarnhau gogwydd parhaus Israel i wleidyddiaeth asgell dde gan ddifetha gobeithion i ddatrysiad y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina.  

Mae Benjamin Netanyahu a’i wrthwynebydd – y cyn prif bennaeth milwrol Benny Gantz, arweinydd y blaid Glas a Gwyn – ill dau wedi hawlio buddugoliaeth yn y pôl.

Ond wrth i’r noson fynd rhagddi, fe ddaeth yn fwy amlwg fod Plaid Likud Benjamin Netanyahu ar y brig.