Mae glaw mawr a llifogydd wedi lladd o leiaf ddeg o bobol ac wedi creu dinistr llwyr yn ninas Rio De Janeiro, Brasil.

Mae dwr wedi chwalu drwy strydoedd gan lusgo ceir a choed gydag o, ar ôl i’r glaw ddechrau syrthio nos Lun (Ebrill 8).

Fe dawelodd y glaw erbyn prynhawn ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 9) ond yn ôl y maer Marcelo Crivella, mae’r ddinas yn dal “mewn “margyfwng.”

Yn ôl swyddogion y ddinas roedd chwe modfedd o law wedi disgyn mewn pedair awr nos Lun, sy’n fwy na’r cyfartaledd ar gyfer mis Ebrill yn gyfan.