Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i ymosodiad rhyw yn ardal Glanyrafon, Caerdydd, yn ystod oriau mân bore Sadwrn diwethaf (Ebrill 6).

Fe gafodd plismyn eu galw tua 5.30yb wedi i wraig yn ei 30au gael ei dilyn ar ei ffordd i’w gwaith rhwng Heol Lecwydd a Ffordd Parc Ninian.

Y gred ydi i’w dilynwr ymosod arni yn gorfforol ac yn rhywiol ger garej geir Jeff White.

Mae’r ymosodwr wedi’i ddisgrifio fel dyn croenwyn, tal a main. Wedi’r ymosodiad, fe redodd i gyfeiriad Treganna.

Mae’r wraig wedi derbyn triniaeth i’w phen yn Ysbyty Prifysgol Cymru, ac mae bellach wedi’i hanfon gartref at ei theulu.

Mae ditectifs yn chwilio trwy luniau teledu cylch cyfyng o’r ardal, ac yn mynd o dŷ i dŷ i wneud ymholiadau.