Mae Rabindra Adhikari, gweinidog twristiaeth llywodraeth Nepal, ymhlith saith o bobol sydd wedi’u lladd ar ôl i hofrennydd daro ochr mynydd yn y wlad.

Mae lle i gredu bod yr hofrennydd yn teithio mewn glaw ac eira yng ngogledd-ddwyrain y wlad ar y pryd.

Swyddog diogelwch y gweinidog yw’r ail gorff i gael ei adnabod, ond doedd dim modd adnabod y pump arall ar unwaith gan iddyn nhw gael eu llosgi.

Cafodd Rabindra Adhikari ei benodi’n weinidog twristiaeth fis Mawrth y llynedd pan ddaeth Plaid Gomiwnyddol Nepal i rym.