Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar yr Aelod Seneddol, Chris Williamson, i ymddiheuro yn dilyn sylwadau a wnaeth sy’n awgrymu bod y blaid “wedi cyfaddawdu gormod” wrth ymateb i gwynion am wrth-semitiaeth.

Yn ôl llefarydd ar ran y blaid, fe ddylai’r aelod tros Ogledd Derby – sy’n un o brif gefnogwyr Jeremy Corbyn – ymddiheuro am ei sylwadau “hynod sarhaus ac annerbyniol”.

Daw yn dilyn adroddiadau bod ysgrifennydd cyffredinol y blaid, Jennie Formby, a’r prif chwip, Nick Brown, yn cyfarfod i drafod pa gamau y dylid eu cymryd yn erbyn y gwleidydd.

Y sylwadau

Mae’r ffrae ddiweddaraf yn deillio o glip fideo sy’n cynnwys Chris Williamson yn dweud wrth aelodau o’r grŵp Momentum yn Sheffield bod y Blaid Lafur yn “rhy barod i ymddiheuro” wrth ymateb i’r honiadau o wrth-semitiaeth o fewn y blaid.

Dywed hefyd ei fod wedi dathlu yn dilyn ymadawiad yr Aelod Seneddol Joan Ryan, a ymddiswyddodd o’r Blaid Lafur yr wythnos ddiwethaf oherwydd ei hanfodlonrwydd â gallu’r blaid i ddelio â’r broblem.

Mae’n debyg bod Chris Williamson eisoes wedi cythruddo rhai swyddogion ar ôl iddo logi ystafell yn y Senedd ar gyfer arddangos ffilm am ymgyrchydd a gafodd ei wahardd yn sgil honiadau o wrth-semitiaeth.

Beirniadaeth

Ymhlith y rheiny sydd wedi beirniadu’r cyn-aelod o Gabinet yr Wrthblaid mae’r Aelod Seneddol o Gymru, Stephen Doughty.

“Mae’r ymddygiad hwn yn annerbyniol a does ganddo ddim lle o fewn ein plaid,” meddai’r aelod tros Dde Caerdydd ar Twitter.

“Dw i wedi dweud yn glir wrth swyddfa’r arweinydd a’n chwipiaid fy mod i’n disgwyl gweld camau brys yn cael eu cymryd ynglŷn â hyn.”

Mae dirprwy arweinydd y Blaid Lafur, Tom Watson, hefyd wedi beirniadu’r sylwadau, gan ychwanegu ei fod wedi adrodd y mater “yn syth” i brif chwip ac ysgrifennydd cyffredinol y blaid.

Galw am ymddiheuriad

“Mae’r sylwadau hyn yn hynod sarhaus ac annerbyniol ac yn gostwng o dan y safonau sy’n ddisgwyliedig gan Aelodau Seneddol,” meddai llefarydd ar ran y Blaid Lafur wedyn.

“Mae gwneud yn fach y broblem o wrth-semitiaeth yn ei gwneud hi’n anos i’w datrys. Dylai Chris Williamson ymddiheuro ar unwaith a thynnu ei sylwadau yn ôl.”