Mae trên cyflym wedi mynd ar ei ben i mewn i rwystr ym mhrif orsaf Cairo yn yr Aifft, gan achosi i’r tanc petrol ffrwydro a chynnau tân anferth sydd wedi lladd 25 o bobol.
Mae awdurdodau’r rheilffordd wedi cadarnhau fod y trên yn teithio’n rhy gyflym adeg y gwrthdrawiad.
Mae o leiaf 47 o bobol wedi’u hanafu yn y digwyddiad.
Mae mwg du, trwchus, wedi bod yn codi i’r awyr wrth i’r gwasanaethau brys ruthro i’r fan i geisio diffodd y fflamau a thrin y rheiny sydd wedi’u hanafu.
Mae ardal Ramsis gyda’r prysuraf a phoblog yn y wlad.