Mae penderfyniad cwmni radio i ddibynnu ar un sioe frecwast Brydeinig ar draul rhaglenni brecwast lleol ledled Cymru yn destun “siom” i’r Ceidwadwyr Cymreig.
Daeth cyhoeddiad gan gwmni Global Radio ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 27) y byddai un rhaglen ganolog yn disodli rhaglenni brecwast Capital, Smooth a Heart.
Bydd newyddion a newyddion i deithwyr yn parhau ar raddfa leol, ond bydd newidiadau sylweddol yn strwythur peirianwyr a swyddogion marchnata’r gorsafoedd.
Mae’n golygu bod rhaglenni Jagger a Woody ar Heart, a Matt a Polly ar Capital, yn dod i ben.
Mae’r blaid yn dweud bod y cyhoeddiad yn “ergyd arall” i’r cyfryngau yng Nghymru, gyda’r posibilrwydd y bydd rhai staff yn colli eu swyddi neu’n cael eu symud i leoliadau eraill.
Mae deiseb eisoes wedi’i sefydlu gan wrandawyr Heart i gefnogi Jagger a Woody.
Mae Andrew RT Davies, yr Aelod Cynulliad Ceidwadol dros Ganol De Cymru, wedi galw am sicrwydd gan Global na fydd y newidiadau’n cael effaith negyddol ar ddarpariaeth newyddion y rhwydwaith.
Mae disgwyl i’r Cynulliad drafod y mater yr wythnos nesaf.
‘Ymbellhau oddi wrth gymunedau’
“Bydd y newyddion hwn yn siomedig iawn i filoedd ar filoedd o wrandawyr ledled de Cymru sy’n gwrando bob bore i glywed eu ffefrynnau lleol fel Jagger a Woody ar Heart, a Matt a Polly ar Capital,” meddai Andrew RT Davies mewn datganiad.
“Bydd y penderfyniad hwn yn arwain at gyflwynwyr a chynhyrchwyr yn ne Cymru’n darganfod eu bod yn cael eu disodli gan enwau mawr sydd wedi’u lleoli ymhell i ffwrdd o’r cymunedau y maen nhw i fod i’w gwasanaethu.
“Tra bod deddfwriaeth yn mynnu bod newyddion a newyddion teithio lleol yn gorfod parhau ar yr awyr ar lefel trwydded leol, mae angen i ni gael sicrwydd gan Global na fydd y strwythurau newydd y bydd yn eu cyflwyno yn cael effaith negyddol ar ddarpariaeth newyddion y rhwydwaith, a fyddai’n ergyd arall i dirwedd y cyfryngau Cymreig na all ei fforddio.”