Mae tân difrifol a effeithiodd ar 150 hectar o fynydd ger Tregaron bellach o dan reolaeth, yn ôl y gwasanaeth tân.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i dir mynyddig rhwng Cwm Berwyn a Nant Stalwyn toc cyn 11.30yb ddoe (dydd Mawrth, Chwefror 26) yn dilyn adroddiadau o dân gwair.
Bu ymladdwyr tân, a oedd yn cynnwys rhai o Dregaron, Llanbedr Pont Steffan, Cei Newydd, Aberystwyth, Llanwrtyd a Llanfair-ym-Muallt, yn ceisio rheoli’r fflamau trwy gydol y dydd tan yn hwyr y nos neithiwr.
Ond yn dilyn ymdrechion newydd y bore yma (Chwefror 27), mae’r fflamau bellach o dan reolaeth ac wedi eu diffodd.
Does dim cadarnhad ynglŷn â beth achosodd y tân, nac adroddiadau bod unrhyw adeiladau neu bobol wedi eu heffeithio.
Tanau eraill
Daw’r digwyddiad yn sgil nifer o danau gwair ledled Cymru yn ystod y deuddydd diwethaf, sydd wedi gweld cyfnod o dywydd mwynach na’r arfer ar gyfer mis Chwefror.
Bu’n rhaid i ddyn gael ei achub o’r mynydd yng Nglyndyfrdwy ger Llangollen ar ôl i’w dractor gael ei amgylchynu gan y tân.
Bu criwiau hefyd yn ymladd tanau gwair yn ardal Cwm Cynon yn ne Cymru, gan gynnwys rhai yn Aberpennar ac Aberdâr.