Fe fydd y darlledwr Jeremy Vine yn cael gwers Gymraeg gan gyd-berchennog Say Something In Welsh, ar ei raglen Radio 2 ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Mae’r darlledwr wedi derbyn her Aran Jones i ddweud brawddeg yn Gymraeg erbyn diwedd ei sioe ddyddiol ddydd Gwener, a hynny ar ôl cael gwers ddeg munud yn fyw ar yr awyr.

Cafodd Jeremy Vine ei feirniadu’n ddiweddar am ymateb i neges ar Twitter yn dweud bod y Gymraeg yng Nghymru yr un fath â’r Ffrangeg yn Ffrainc.

Yn ei ymateb, a gafodd ei ddileu yn fuan wedyn, gofynnodd Jeremy Vine, “Ydi Ffrainc yn y Deyrnas Unedig?”

Roedd y rhaglen y cafodd y sylwadau eu seilio arni yn crybwyll yr hen chwedl am bobol yn troi i’r Gymraeg wrth i rywun di-Gymraeg gerdded i mewn i’r dafarn.

Amddiffyn Jeremy Vine

Roedd Aran Jones yn un o’r rhai oedd yn amddiffyn Jeremy Vine yn dilyn y sylwadau ac yn dilyn sgwrs rhwng y ddau, fe ddywedodd fod gan y darlledwr “ddiddordeb go iawn” mewn dysgu Cymraeg.

Mae Jeremy Vine eisoes wedi dweud ei fod e wedi mynd ati i ddysgu mwy am y Gymraeg, a’i fod yn awyddus i roi cynnig ar ddysgu rhywfaint o’r iaith.

Mewn blog ar wefan Nation.cymru, mae Aran Jones yn “canmol” ymateb Jeremy Vine wedi’r ffrae, gan dynnu sylw at y ffaith fod y darlledwr yn fodlon trafod y sefyllfa gyda Chymry Cymraeg.

“O’r pwynt hwnnw ymlaen, yn hytrach na mynd yn amddiffynnol, roedd e fel pe bai’n gwrando ar bobol,” meddai.

“Dydi hynny ddim yn rhywbeth y gwelwch chi’n aml iawn ar Twitter – yn enwedig gan rywun â llwyfan go fawr.  Ond fe ddechreuodd e godi stêm wedyn.”

Trydar

Mae Aran Jones yn cyfeirio at y darlledwr yn ail-drydar erthygl am y chwedl am y Sais yn y dafarn, cyn ei ddilyn a dechrau trafod y Gymraeg gyda fe mewn cyfres o negeseuon preifat.

“Mae gwirioneddol angen i ni wybod pryd i ddangos cariad,” meddai Aran Jones yn ei ddarn blog wedyn.

“Mae angen i ni wneud ffrindiau gyda phobol (pan fo’n bosib), a’u helpu i ddeall sut beth ydi bod yn Gymro Cymraeg – a hyd yn oed eu helpu i ddysgu ychydig o’r iaith.”