Fe fydd myfyrwyr yn y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol yng Nghaerdydd yn cymryd rhan flaenllaw yn nathliadau hanner canmlwyddiant arwisgo Charles yn Dywysog Cymru eleni.

Fe fyddan nhw’n perfformio darn sydd wedi’i gyfansoddi gan Paul Mealor ar gyfer achlysur ym Mhalas Buckingham, a hwnnw’n seiliedig ar chwedl Morwyn Llyn-y-fan. Mae’r stori honno wedi’i lleoli nepell o Lwynywermod, cartref y tywysog yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mawrth nesaf (Mawrth 5), i ddathlu 50 mlynedd ers i Charles gael ei arwisgo yng Nghastell Caernarfon ar Orffennaf 1, 1969.

Bydd eitemau o gyfnod yr Arwisgiad yn cael eu harddangos yn ystod y digwyddiad, a bydd aelodau’r teulu brenhinol yn bresennol, ynghyd â ffigurau bywyd cyhoeddus Cymru a chynrychiolwyr o rai o elusennau’r tywysog.

Bydd Archesgob Caergaint hefyd yn annerch y digwyddiad sy’n dathlu “hanner canrif o wasanaeth y tywysog i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad”.