Mae pryderon am allu Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, wrth iddo geisio torri ei wariant o £7.6m.
Mae undeb Unsain yn rhybuddio y bydd y toriadau arfaethedig yn cael “effaith ddinistriol ar swyddi, gwasanaethau cyhoeddus a’r economi leol”.
Maen nhw’n dweud bod colli swyddi’n “anochel”, a bod swyddi gofal, swyddogion croesi plant ger ysgolion, swyddogion atal digartrefedd a gwasanaethau parciau a chaeau chwarae i gyd yn y fantol.
Mae bygythiad hefyd i wasanaethau hamdden a bysiau’r sir.
‘Dim rhagor o sgôp mewn cymunedau difreintiedig’
“Mae hyn yn newyddion ofnadwy i weithwyr cyngor a’r miloedd o bobol sy’n dibynnu arnom i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol yng ngofal cymdeithasol, addysg, cymunedau, gwasanaethau cymorth a hamdden,” meddai John Hughes, swyddog cangen Unsain Pen-y-bont ar Ogwr.
“Byddai colli swyddi ar raddfa fawr yn bygwth incwm cannoedd o deuluoedd lleol ac mae hynny’n golygu llai o arian yn cael ei wario ar ein strydoedd mawr.
“Os yw’r cyngor yn lleihau arian y darparwr hamdden, HALO, ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, byddai’r staff yn cael eu heffeithio’n wael.
“Does dim rhagor o sgôp am doriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig mewn cymunedau difreintiedig.
“Rydyn ni wedi colli bron i 2,000 o swyddi cyngor ym Mhen-y-bont ar Ogwr ers 2010 o ganlyniad uniongyrchol i ostyngiad difrifol llywodraeth Geidwadol y DU mewn gwariant cyhoeddus.
“Mae’r galw cyhoeddus am y gwasanaethau hyn wedi tyfu diolch i doriadau San Steffan, a does gennym ni ddim yr adnoddau sydd eu hangen arnom er mwyn gwneud y gwaith yn iawn.
“Mae Unsain yn barod i gydweithio â’r awdurdod i wneud popeth allwn ni er mwyn gwarchod swyddi a gwasanaethau.”