Bu llai o adroddiadau am siarcod yn brathu pobol y llynedd, yn ôl ymchwilwyr mewn prifysgol yn yr Unol Daleithiau.

Mae ffigyrau gan Brifysgol Florida yn datgelu bod 66 o achosion wedi cael eu cofnodi yn 2018, o gymharu ag 88 y flwyddyn flaenorol.

Mae’r ffigwr yn 26% yn is na’r cyfartaledd o 84 dros gyfnod o bum mlynedd.

Mewn datganiad, dywed llefarydd o Amgueddfa Astudiaethau Natur Florida nad yw’n hi’n bosib gwybod os yw’r cwymp hwn mewn achosion pa un ai o ganlyniad i ddirywiad yn nifer y siarcod neu bobol yn cymryd mwy o ofal yn y môr.

Ond ychwanega fod angen codi ymwybyddiaeth am sut mae siarcod yn ymddwyn, yn enwedig mewn ardaloedd fel Cape Cod, Massachusetts, lle mae siarcod gwyn wedi cael eu gweld y llynedd.

Roedd hanner y brathiadau a gafodd eu cofnodi yn 2018 yn nyfroedd yr Unol Daleithiau.