Mae hyder ffermwyr ar gyfer y dyfodol “ar ei lefel isaf erioed” oherwydd Brexit, yn ôl arolwg newydd.

Dywed yr NFU fod yr ansicrwydd ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei gwneud hi “bron yn amhosib” i fusnesau cynhyrchu bwyd gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

Yn ôl arolwg yr undeb, mae 21% o’r 732 o ffermwyr a gafodd eu holi yn dweud eu bod nhw am fuddsoddi llai yn eu busnesau dros y flwyddyn nesaf oherwydd diffyg sicrwydd.

Mae hyder ar gyfer y tymor byr (12 mis) wedi syrthio 19 pwynt ers hyder y llynedd i ffigwr negatif, meddai’r arolwg ymhellach, tra bo hyder am y tair blynedd nesaf ar ei lefel isaf ers 2010 – pan ddechreuwyd cynnal arolygon.

“Darlun llwm iawn”

“Mae’r canlyniadau hyn yn paentio darlun llwm iawn o’r gwir effaith y mae aniscirwydd Brexit yn ei gael ar fusnesau’r diwydiant amaeth,” meddai Llywydd yr NFU, Minette Batters.

“Mae ffermydd cynhyrchiol, proffidiol a blaengar yn ganolog i’n gallu i gynhyrchu bwyd diogel a fforddiadwy ar gyfer gwledydd Prydain, a hynny wrth amddiffyn ac ehangu cefn gwad.

“Mae hyder i fuddsoddi yn hanfodol os ydym ni am barhau i wasanaethu gwledydd Prydain yn y ffordd hon, oherwydd mae ffermio yn fusnes hirdymor.