Mae pedwar o bobol wedi marw yn dilyn cyfres o wrthdrawiadau mewn gorsaf drenau ym mhrifddinas Twrci.

Yn ôl adroddiadau, mae trên wedi taro yn erbyn cerbyd arall yn yr orsaf yn Ankara, ac yna wedi taro yn erbyn pont i gerddwyr.

Roedd y trên yn teithio o Ankara i ddinas Konya yng nghanolbarth y wlad.

Mae o leiaf 43 o bobol wedi cael eu hanafu, ac mae o leiaf dau gerbyd wedi cael eu rhwygo oddi ar gledrau’r orsaf.

“Gobeithiwn nad oes rhagor wedi’u lladd na eu hanafu,” meddai Llywodraethwr Ankara, Vasip Sahin.