Mae disgwyl i Theresa May deithio i Frwsel heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 13) gyda’r nod o newid ychydig ar amodau ei dêl Brexit.
Daw ymweliad y Prif Weinidog yn sgil pleidlais o ddiffyg hyder a gafodd ei danio gan garfan o Geidwadwyr anfodlon.
Dim ond aelodau o’i phlaid wnaeth gymryd rhan ym mhleidlais dydd Mercher (Rhagfyr 12), ac mi enillodd o 200 pleidlais i 117.
Yn dilyn diwrnod tymhestlog yn San Steffan, mi fydd yn teithio i brifddinas Gwlad Belg i annerch arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn y Cyngor Ewropeaidd.
Nod Theresa May yw darbwyllo’r undeb i newid y Mesur Ymadael, a gwella’i gobeithion o basio’r ddeddf yn Nhŷ’r Cyffredin.
Ffin Iwerddon
Un o agweddau mwyaf dadleuol dêl Brexit Theresa May yw ei goblygiadau i Ogledd Iwerddon.
Dan y cynlluniau presennol, mi fyddai rhai rheolau Ewropeaidd yn parhau i fod mewn grym yng Ngogledd Iwerddon yn dilyn Brexit.
A phwrpas hynny yw rhwystro ffin galed ar Ynys Iwerddon.
Ond, mae plaid y DUP – plaid sydd yn cefnogi llywodraeth leiafrifol Theresa May – ynghyd ag Aelodau Seneddol eraill wedi gwrthwynebu’r cynllun yn llwyr.
Bydd y Prif Weinidog yn debygol o geisio mynd i’r afael â hyn yn ystod ei hymweliad â’r cyfandir.
Diffyg hyder
Roedd disgwyl pleidlais ar ddêl Theresa May yr wythnos hon, ond yn sgil pryderon y byddai’r Llywodraeth yn colli, cafodd ei ohirio gan y Prif Weinidog.
Y cam yma wnaeth sbarduno sawl Ceidwadwr i anfon llythyron o ddiffyg hyder a thanio’r bleidlais yn ei herbyn.
Dan reolau’r blaid honno, does dim modd herio’r arweinydd am flwyddyn arall. Er hynny, mi allai Aelodau Seneddol danio pleidlais arall yn ei herbyn yn Nhŷ’r Cyffredin.