Mae’r heddlu yn Ffrainc wedi enwi’r dyn maen nhw’n ei amau o fod yn gyfrifol am ladd tri o bobol mewn ymosodiad arfog yn Strasbourg.

Mae Cherif Chekatt, 29, yn droseddwr cyson ac mae ei droseddau blaenorol yn cynnwys lladrata.

Fe fu’r heddlu’n chwilio’i gartref fore ddoe (dydd Mawrth, Rhagfyr 11), oriau cyn yr ymosodiad, gan ei fod yn cael ei amau o geisio llofruddio.

Mae e wedi ffoi ers yr ymosodiad yng nghanol dinas Strasbourg, pan saethodd dri o bobol yn farw ac anafu o leiaf 13 o bobol eraill ger marchnad Nadolig.

Mae 350 o blismyn yn chwilio amdano erbyn hyn ar ôl iddo lwyddo i ffoi ar ôl cael ei saethu gan yr heddlu.