Mae Theresa May wedi addo brwydro yn erbyn pleidlais o ddiffyg hyder yn ei harweinyddiaeth – “gyda phopeth sydd gen i”.

Mae Syr Graham Brady, cadeirydd Pwyllgor 1922 San Steffan, wedi derbyn y 48 o lythyrau sydd eu hangen er mwyn dechrau’r broses o drefnu’r bleidlais.

Daw’r bleidlais ar ôl i Brif Weinidog Prydain gyhoeddi ei bod yn gohirio’r bleidlais ar ei chynlluniau Brexit ar ôl darganfod ei bod hi’n debygol o golli.

“Rwy wedi bod yn aelod o’r Blaid Geidwadol ers dros 40 mlynedd. Rwy wedi ei gwasanaethu fel ymgyrchydd, cynghorydd, aelod seneddol, gweinidog yr wrthblaid, Ysgrifennydd Cartref a bellach fel Prif Weinidog.

“Sefais i fod yn arweinydd oherwydd rwy’n credu yn y weledigaeth Geidwadol ar gyfer dyfodol gwell; economi sy’n ffynnu heb fod unman a neb wedi’u gadael ar ôl; cymdeithas gryfach lle gall pawb wneud y mwyaf o’u doniau – gan wasanaethu lles y genedl bob amser.”

Cynllun Brexit

Wrth gyfeirio at ei chynlluniau Brexit, dywed fod angen “sicrhau cytundeb Brexit sy’n gweithredu ar sail canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, adennill rheolaeth dros ein ffiniau, cyfreithiau ac arian, ond amddiffyn swyddi, ein diogelwch a’n hundeb arbennig wrth i ni wneud hynny”.

Dywed ei bod hi’n credu bod y fath gytundeb yn bosib, a bod “dyfodol disglair ar y gorwel i’n gwlad” a’i fod “o fewn ein gafael”.

Dywed bod ei chynlluniau’n magu coesau ar ôl cyfarfod ag Angela Merkel, canghellor yr Almaen; Mark Rutte, prif weinidog yr Iseldiroedd; Donald Tusk, Llywydd Cyngor Ewrop; a Jean-Claude Juncker, Llywydd Comisiwn Ewrop.

Ond mae mater ffiniau Iwerddon yn rhygnu ymlaen, ac mae hi wedi gorfod gohirio ymweliad â Dulyn heddiw er mwyn aros yn San Steffan i drafod ei harweinyddiaeth.

“Byddai newid yn arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol nawr yn peryglu dyfodol ein gwlad ymhellach, ac yn creu ansicrwydd ar yr adeg pan allwn fforddio hynny leiaf,” meddai.

Ansicrwydd

Dywed na fyddai’r arweinydd newydd yn ei le cyn dyddiad cau trafodaethau Ewrop ar Ionawr 21, ac y byddai hynny’n golygu mai’r wrthblaid fyddai’n rheoli’r sefyllfa.

Mawrth 29 yw’r dyddiad pan fydd Erthygl 50 yn cael ei weithredu er mwyn dechrau’r broses Brexit yn ffurfiol ond mae’r sefyllfa ddiweddaraf yn peryglu’r broses honno, meddai.

“Dim ond lles Jeremy Corbyn a John McDonnell fyddai’n cael eu gwasanaethu,” meddai.

“Rhaid i ni weithredu ar sail pleidlais y refferendwm ac fe wnawn ni hynny, a manteisio ar y cyfleoedd a ddaw, ond rhaid i’r Ceidwadwyr beidio â bod yn blaid un mater.

“Rydym yn blaid i’r genedl gyfan – yn gymhedrol, yn bragmataidd, yn brif ffrwd; wedi ymrwymo i ailuno’r wlad hon ac adeiladu gwlad sy’n gweithio er lles pawb; yr agenda amlinellais i yn fy araith gyntaf y tu allwn i’r drws ffrynt hwn; cyflwyno’r Brexit wnaeth y bobol bleidleisio drosto; adeiladu gwlad sy’n gweithio er lles pawb.

“Rwy wedi ymroi yn ddiymarbed i’r tasgau hyn fyth ers i fi ddod yn Brif Weinidog ac rwy’n sefyll yn barod i gwblhau’r gwaith.”