Mae dynes a’i baban deng mis oed wedi cael eu lladd gan arth yn Canada.

Yn ôl y crwner yna ardal Yukon, bu farw Valerie Theoret, 37, a’i phlentyn, Adele Roesholt, yn ystod yr ymosodiad yng ngogledd y wlad.

Roedd yr awdurdodau wedi derbyn galwad gan Gjermund Roesholt, a welodd yr arth rhyw gan metr o’r cabin lle roedd ei wraig a’i blentyn yn aros ynddo.

Fe saethodd yr arth yn y fan a’r lle, cyn dod o hyd i gyrff ei deulu y tu allan i’r cabin.