Mae Brigâd Dân Llundain yn treialu dau ddrôn i’w helpu yn y gwaith, yn dilyn eu profiad yn ymladd y fflamau yn fflatiau Twr Grenfell y llynedd.

Maen nhw ar hyn o bryd yn treialu’r awyrennau bychan di-beilot, a fedr hedfan i uchder o hyd at 400 troedfedd ar gyflymder o 51 milltir yr awr.

Hyd at naer, maen nhw wedi galw am help hofrenyddion yr heddlu o dro i dro er mwyn cael golwg o’r awyr ar y modd y mae tân yn lledu, neu i chwilio am bobol.

Ond fe ddaeth drôn gan Wasanaeth Tân ac Achub Kent yn ddefnyddiol iawn yn Grenfell ym mis Mehefin, 2017.

Mae’r bwriad i wneud mwy o ddefnydd o drônau wedi’i amlinellu mewn dogfen yn ymateb i drychineb Grenfell ac sydd wedi ei chyflwyno gerbron yr ymchwiliad cyhoeddus.

Mae Brigâd Dân Llundain yn arbrofi gyda’r drôns ers Medi 25, ac fe allai’r cyfnod prawf bara pedwar mis.