Mae llywodraeth Mecsico wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu gwobrwyo mab-yng-nghyfraith arlywydd yr Unol Daleithiau gydag un o brif anrhydeddau’r wlad, Urdd Eryr yr Aztec.

Mae Adran Cysylltiadau Tramor yn dweud fod Jared Kushner, gwr i ferch Donald Trump, yn haeddu’r anrhydedd am “ei gyfraniad sylweddol” i’r gwaith diweddar o ail-drafod y cytundeb masnach rhwng Mecsico, yr Unol Daleithiau a Canada (USMCA).

“Mae Jared Kushner wedi chwarae rhan allweddol yn yr holl broses,” meddai llefarydd ar ran yr Adran, “ac mae wedi dangos cefnogaeth a phenderfyniad ar hyd y daith.

“Dyna sydd wedi bod yn allweddol i lwyddiant y trafodaethau.”

Mae’r cyhoeddiad wedi ennyn beirniadaeth yn Mecsico, lle mae yna wir atgasedd tuag at Donald Trump yn dilyn ei sylwadau am bobol y wlad, ynghyd â’i fwriad i godi wal ar hyd y ffin ag America.

Fe ddaw’r cyhoeddiad am y wobr hefyd ychydig ddyddiau’n unig cyn y bydd arlywydd etholedig Mecsico, Andres Manuel Lopez Obrador, yn tyngu llw ar Ragfyr 1.

Dros y blynyddoedd, mae Urdd Eryr yr Aztec wedi ei rhoi i arweinwyr gwledydd tramor, i bobol o’r byd diwylliannol ac i ffigyrau mawr fel Walt Disney a Bill Gates.