Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn galw am ymchwiliad i’r helynt trenau yng Nghymru.
Daw’r alwad gan Andrew RT Davies yn dilyn nifer o gwynion ers i gorff Trafnidiaeth Cymru gymryd droaodd y cyfrifoldeb am drenau gan gwmni Arriva.
Ac mae’n dilyn sylwadau’r Aelod Cynulliad Llafur, Julie James, sydd wedi canmol y gwasanaeth trenau yng Nghymru.
Ond mae nifer o gwynion wedi dod i law am deithiau’n cael eu canslo a’u disodli gan deithiau bws, yn ogystal ag oedi mawr wrth aros am drenau.
Wedi torri
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, mae angen atgyweirio traean o’r 127 o drenau yng Nghymru ac o ganlyniad, mae disgwyl i’r problemau bara am rai wythnosau eto.
Mae’r broses o drosglwyddo o Arriva i Trafnidiaeth Cymru yn rhannol ar fai, yn ôl Llywodraeth Cymru.
“Mae dweud bod gwasanaethau rheilffordd ar draws rwydwaith Llinellau’r Cymoedd dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn gawlach yn danddatganiad, gyda chryn amhariad i deithwyr ledled de Cymru,” meddai Andrew RT Davies.
“Yn ogystal â gorlenwi difrifol, fe fu oedi a chanslo sawl gwaith, gyda diffyg stoc parhaus ar fai, a dim cydrannau sbâr i drwsio’r fflyd sy’n bod eisoes.
“Cawsom ein harwain i gredu bod traean, os nad hanner holl drenau Cymru allan o wasanaeth, ac mae’n amlwg fod y trosglwyddo o’r deiliaid rhyddfraint blaenorol, Trenau Arriva, wedi cael ei gwblhau’n wael.”
Ymchwiliad ‘arwyddocaol a sylweddol’
Ychwanega fod y cyfnod trosglwyddo wedi bod yn un “rhwystredig” ledled Cymru, a bod angen cynnal “ymchwiliad arwyddocaol a sylweddol”.
“Mae’n amlwg ei fod yn ddechrau anodd i Trafnidiaeth Cymru – a thra bod gwelliannau ar unwaith bob amser yn annhebygol.
“Mae’r ffaith fod rheolaeth ddydd-i-ddydd gwasanaethau yn gwaethygu ac yn argoeli’n wael ar gyfer addewidion y dyfodol,” meddai wedyn.