Heddiw (dydd Iau, Tachwedd 29), mae Llywodraeth Cymru yn dechrau casglu barn ar ba mor fforddiadwy ydi gwisg ysgol i bob disgybl yn y wlad.
Fe fydd Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams yn lansio ymgynghoriad a allai arwain at basio rheolau ynglyn â chost ac amodau gwisgo iwnifform ledled y wlad.
Mae hi’n ymweld ag Ysgol Glan Morfa yn ardal Sblot, Caerdydd, lle mae gwisg ysgol yn cael ei rhoi i ddisgyblion yn ail law yn rhad ac am ddim, neu am ffi fechan.
Mae hi am weld mwy o gysondeb rhwng gwahanol rannau o Gymru, ac mae hi o’r farn y dylai cyrff llywodraethwyr sicrhau bod eitemau gwisg yr ysgol yn fforddadwy i rieni.
Fe fydd yr ymgynghoriad yn ceisio sefydlu hefyd pa mor addas yw’r wisg mewn tywydd garw, a ffactorau’n ymwneud ag anableddau a rhyw.