Mae Llywodraeth Cymru am ddileu gwerth £3.25m o grantiau prifysgol ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi ar gam i fyfyrwyr.
“Camddehongli gonest” oedd y gwall, yn ôl Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams.
Cafodd y taliadau eu rhoi dros gyfnod o ddeng mlynedd i fyfyrwyr ar gyrsiau dysgu o bell, er mai eu bwriad oedd cefnogi myfyrwyr ar dir colegau. Caiff y grantiau eu rhoi i gefnogi aelodau’r teulu sy’n ddibynnol ar y myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.
Cafodd yr arian ei roi gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a’r Brifysgol Agored am y rhesymau cywir, meddai.
Fe fydd myfyrwyr a ddechreuodd eu hastudiaethau cyn eleni’n parhau i dderbyn y grant, gan na fyddai’n deg ei dynnu oddi arnyn nhw, meddai Kirsty Williams wedyn.
“Hoffwn gadarnhau i aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau nad oes lle i amwysedd yn rheoliadau cefnogi myfyrwyr 2018/19 o ran cymhwyster i fyfyrwyr ar gyrsiau dysgu o bell.”
Croesawu’r cyhoeddiad ‘hwyr’
Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies wedi croesawu cyhoeddiad Kirsty Williams.
Ond mae hi’n cwestiynu pam fod y mater wedi cymryd degawd i’w ddatrys.
“Mae angen ateb cwestiynau ynghylch pa gorff oedd yn gyfrifol am hyn, a gafodd y broses gywir ei dilyn, a pham aeth yn ei flaen am gyhyd,” meddai.
“Yr un mor bwysig yw pam na wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru sylwi ar y gwall hwn yn ystod y degawd a gostiodd swm o arian i’r trethdalwyr a allai fod wedi talu am ddwsinau o athrawon?”