Ar ôl rhoi gwybod i Carl Sargeant am yr honiadau, dywed Carwyn Jones iddo gael “ymateb anarferol”, ac nad oedd e wedi “gwadu’n llwyr” ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.

“Wnes i ei gael e i eistedd a dywedais i, ‘Edrycha, Carl, dyw’r sgwrs hon ddim yn mynd i fod yn un rwydd…’

“Pan ddywedais i wrtho fe am yr honiadau, roedd ei ymateb e’n anarferol, mewn ffordd, nad oedd e’n eu hadnabod nhw. Mewn gwleidyddiaeth, nid gwadu mo hynny. Nid gwadu’n llwyr yw e. Roedd yn beth anarferol i’w ddweud.

“Doedd e ddim yn ddagreuol. Mewn panig, ond nid mewn trallod.”