Doedd Carl Sargeant “ddim yn ffit i fod o gwmpas menywod”, yn ôl llythyr o gŵyn a dderbyniodd Prif Weinidog Cymru yn 2014.
Mae Carwyn Jones yn rhoi tystiolaeth yn y cwest yn Rhuthun i farwolaeth y gwleidydd ar Dachwedd 7 y llynedd, ddyddiau’n unig ar ôl colli ei swydd yn Weinidog Cymunedau Llywodraeth Cymru.
Fe fu Carwyn Jones sôn am lythyr a dderbyniodd gan aelod o Blaid Lafur Alyn a Glannau Dyfrdwy, gan ychwanegu iddo rybuddio Carl Sargeant i “fod yn ofalus” ynghylch ei ymddygiad a faint o alcohol roedd e’n ei yfed.
Dywedodd fod sïon ar led yn 2017 ynghylch ymddygiad Carl Sargeant tuag at fenywod, a’i fod wedi derbyn dau lythyr gan ddwy ddynes yn cwyno amdano yn ddiweddarach.
Dywedodd iddo deimlo “siom” o dderbyn y llythyron, ac nad oedd wedi dweud wrtho am y llythyron gan y byddai hynny wedi arwain at wybod pwy oedden nhw.
Dywedodd iddo glywed am ei ymddygiad yn 2016 gan ddynes, ond nad oedd wedi mynd â’r mater ymhellach am nad oedd hi’n dymuno gwneud cwyn ffurfiol. Ychwanegodd fod y sefyllfa hon yn wahanol i’r un a gododd yn 2014.
Neges ar Twitter
Wrth ad-drefnu ei Gabinet a phenderfynu fod Carl Sargeant yn colli ei swydd yn Llywodraeth Cymru, dywedodd Carwyn Jones nad oedd yn bwriadu datgelu gwybodaeth am yr honiadau cyn bod Carl Sargeant yntau wedi gwneud hynny.
Dywedodd Carl Sargeant yn y neges iddo gael ei symud o’i swydd am resymau’n ymwneud â’i ymddygiad.
“Drwy gynnig gwybodaeth yn y modd y gwnaeth e, fe dynnodd e sylw’r cyfryngau,” meddai.
Gofal bugeiliol
Mae Carwyn Jones wedi egluro mai’r Aelod Cynulliad Llafur, Ann Jones fu’n cynnig gofal bugeiliol ers y dydd Gwener cyn ei farwolaeth. Roedd hynny, meddai, yn unol ag arferion cyffredin.
Dywed fod Ann Jones yn gymwys am ei bod hi’n “wleidydd sy’n gyfarwydd â’r byd gwleidyddol”.
Ond dywed nad oedd y gofal ar gael o’r dechrau’n deg am ei fod yn gwybod fod Carl Sargeant yn cael ei gefnogi gan ei ffrindiau yng Nghaerdydd.