Fe ddylai unrhyw ddadl deledu ar y cytuneb Brexit fod yn un rhwng Theresa May a Jeremy Corbyn, yn ôl 10 Stryd Downing.
Mae swyddfa Prif Weinidog Prydain wedi gwrthod galwadau gan rai ynglŷn â’r angen am ddadl deledu rhwng arweinwyr y prif bleidiau ar Brexit.
Mae pleidiau fel yr SNP, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd ymhlith y rheiny sydd eisoes yn galw am ail refferendwm, yn ogystal â dadl deledu a fydd yn rhoi cyfle iddyn nhw gyflwyno eu dadleuon.
Ond mae Stryd Downing yn mynnu mai dadl rhwng y Prif Weinidog ac Arweinydd yr Wrthblaid ddylai hi fod, gan fod Theresa May yn awyddus i wybod pam bod Jeremy Corbyn am wrthwynebu ei chytundeb.
Mae awgrymiadau y bydd dadl rhwng y ddau yn cael ei darlledu ar Ragfyr 9, ddeuddydd cyn y bleidlais fawr yn Nhŷ’r Cyffredin.
Dadl dau
“Rhwng y Prif Weinidog ac Arweinydd yr Wrthblaid, mae’r ddwy blaid yn cynrychioli tua naw ym mhob deg o’r Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin,” meddai’r llefarydd ar ran 10 Stryd Downing.
“Mae’r Prif Weinidog wedi sicrhau cytundeb y mae hi’n credu sy’n parchu canlyniad y refferendwm, yn amddiffyn swyddi a diogelwch, yn ogystal â sicrhau safonau amgylcheddol uchel, hawliau i weithwyr a nifer o bethau eraill y mae gan Arweinydd yr Wrthblaid ddiddordeb ynddyn nhw.
“Mae hi’n credu ei bod yn bwysig i wybod pam mae e [Jeremy Corbyn] am bleidleisio yn erbyn y cytundeb.”