Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i wyth arch sy’n cynnwys mymïaid y tu fewn iddyn nhw tua 25 milltir i’r de o ddinas Cairo.
Yn ôl yr awdurdodau, mae lle i gredu bod y mymïaid yn dyddio’n ôl i’r cyfnod rhwng y blynyddoedd 664 a 332 CC.
Fe gawson nhw eu canfod yn yr un ardal â phyramid y Brenin Amenemhat II, mewn mynwent arbennig ar gyfer uchel swyddogion ac aelodau o’r llys brenhinol.
Mae’r ardal yn gartref i rai o byramidiau hynaf yr Aifft, gan gynnwys y Pyramid Coch.
Mae Llywodraeth yr Aifft yn gobeithio y bydd canfyddiadau o’r fath yn denu mwy o ymwelwyr i’r wlad, a hynny yn dilyn blynyddoedd anodd yn wleidyddol ac economaidd.