Mae Prif Weinidog Cymru wedi amddiffyn ei benderfyniad i ddiswyddo Carl Sargeant o Gabinet Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd y llynedd, gan ddweud “nad oedd modd anwybyddu” yr honiadau yn ei erbyn.

Mae Carwyn Jones yn cyflwyno tystiolaeth gerbron y crwner yn Rhuthun heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 28) ar drydydd diwrnod y cwest i farwolaeth y gwleidydd.

Bu farw Carl Sargeant yn ei gartref yng Nghei Connah, ddyddiau ar ôl iddo gael ei ddiswyddo o’i waith yn Ysgrifennydd tros Gymunedau a Phlant yn llywodraeth Carwyn Jones.

Cafodd hefyd ei wahardd o’r Blaid Lafur, wrth iddo wynebu honiadau o ymddygiad amhriodol yn erbyn menywod.

Amddiffyn

Yn ystod sesiwn fore y cwest heddiw, fe gafodd Carwyn Jones ei hol gan y crwner ar gyfer gogledd Cymru, John Gittins, ynglŷn â’r penderfyniad i ddiswyddo Carl Sargeant.

“Yn ystod y trafodaethau ynglŷn ag adrefnu’r Cabinet, fe ddaeth yr honiadau am Carl,” meddai Carwyn Jones. “Doedd dim modd eu hanwybyddu yn ystod y broses o ad-drefnu.”

Mae disgwyl i sesiwn y prynhawn gychwyn am ddau o’r gloch, ac y bydd y Prif Weinidog yn cyflwyno rhagor o dystiolaeth.