Mae awudrodau Ffrainc a’r Deyrnas Unedig wedi achub 18 o ffoaduriaid mewn dau gwch bach yn nyfroedd y Sianel, wrth iddyn nhw geisio cyrraedd glan yn Lloegr.

Mae’r Maritime Prefecture yn Ffrainc yn dweud iddyn nhw achub naw o bobol toc cyn i’r wawr dorri, cyn eu cludo i ddiogelwch ym mhorthladd Dunkirk.

Ychydig funudau’n ddiweddarach, fe gafwyd galwad yn dweud fod cwch arall mewn trafferthion ger Dover, a bod naw o bobol yn hwnnw hefyd.

Bad achub o Loegr aeth i’w hachub nhw a’u hebrwng i’r lan.