Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi adroddiad am effeithiau economaidd hirdymor Brexit heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 28).

Daw’r cyhoeddiad wrth i Theresa May barhau i deithio o gwmpas gwledydd Prydain yn ceisio ennill cefnogaeth i’w chytundeb, sydd eisoes wedi cael ei gymeradwyo gan yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Stryd Downing, mae’r adroddiad yn cwmpasu “ystod eang o sefyllfaoedd”, ac mae disgwyl iddo ddod i’r casgliad bod gwledydd Prydain mewn sefyllfa well o dan dermau cytundeb Brexit y Prif Weinidog o gymharu â dim cytundeb.

Mae gweinidogion hefyd wedi cytuno i gyhoeddi adolygiad ynglŷn â’r effaith economaidd y bydd aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn ei gael.

Mae disgwyl i Aelodau Seneddol bleidleisio ar gynnig Theresa May ym mis Rhagfyr.

“Partneriaeth economaidd heb ei hail”

Yn dilyn cyfnodau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ddoe, bydd Theresa May heddiw yn teithio i’r Alban i ddadlau bod ei chytundeb yn cynnig “partneriaeth economaidd heb ei hail” gyda’r Undeb Ewropeaidd

Mae disgwyl iddi hefyd apelio ar bysgotwyr yr Alban drwy ddweud bod gwledydd Prydain am adael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, sy’n golygu na fydd yn rhaid glynu wrth reolau Ewropeaidd.

“O’r diwedd, fe fyddwn ni’n ‘wladwriaeth arfordirol annibynnol’ unwaith eto – gan ailfeddiannu sofraniaeth dros ein dyfroedd, ac i benderfynu tros ein hunain pwy sy’n cael pysgota ynddyn nhw,” meddai Theresa May.

Adroddiad yr Alban

Ar drothwy ei hymweliad, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi adroddiad sy’n nodi bod y cytundeb Brexit presennol yn mynd i gostio’r Alban £1,610 y flwyddyn erbyn 2030.

“Yn fyr, mae’n mynd i wneud ni’n dlotach,” meddai Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

“Ni all yr un lywodraeth yn yr Alban sy’n gofalu am les y genhedlaeth hon a rhai’r dyfodol, dderbyn [y cytundeb] hwn.”