Mae llys yng ngwlad Thai wedi dedfrydu tri o bobol i garchar, wedi iddyn nhw gael eu dyfarnu’n euog o smyglo cyrn rheinosarws gwerth $1.5m i mewn i’r wlad o Ethiopia.
Fe ddaethpwyd o hyd i’r bagiau yn cynnwys 21 o gyrn ym mis Mawrth eleni, wrth i swyddogion tollau chwilio cesys maes awyr Bangkok.
Mae’r llys heddiw wedi dedfrydu dwy ddynes o wlad Thai i bedair blynedd dan glo am geisio hawlio’r bagiau cyn dianc o afael y swyddogion diogelwch y maes awyr. Mae erlynydd hefyd wedi cael ei anfon i’r carchar am geisio perswadio awdurdodau’r maes awyr i beidio â chwilio’r bagiau.
Mae’r tri wedi’u dyfarnu’n euog o smyglo eitemau sydd wedi eu gwahardd i mewn i’r wlad, ac o osgoi talu tollau.