Mae barnwr ffederal wedi rhwystro llywodraeth arlywydd America rhag gwahardd lloches i ffoaduriaid sy’n croesi’r ffin yn anghyfreithlon.
Cyflwynodd Jon S Tigar orchymyn atal dros dro ar ôl clywed dadleuon yn San Ffransisco, Califfornia.
Cafodd y cais am y gorchymyn ei wneud gan Undeb Rhyddid Sifil America (ACLU) a’r Ganolfan Hawliau Cyfansoddiadol, yn syth ar ôl i Donald Trump gyhoeddi gwaharddiad ar y ffoaduriaid.
Bwriad arlywydd America oedd atal y carafanau o ymfudwyr sydd yn teithio o Hondwras, sydd wedi dechrau cyrraedd ffin America â Mecsico.
Cyhoeddodd Donald Trump ar Dachwedd 9 na fyddai unrhyw un sy’n croesi’r ffin yn cael lloches